Rydym yn unigryw yn y DU ac wedi meithrin enw da yn rhyngwladol am ein dulliau gweithredu arloesol o ran rhoi prosesau ecoddylunio ar waith.
Sefydlwyd y Ganolfan Ecoddylunio (EDC) yn 2006 ac rydym yn sefydliad gwybodaeth-ddwys yn y DU sy'n arbenigo mewn rhoi prosesau ecoddylunio ar waith. Rydym yn gwneud i ecoddylunio weithio drwy ddatblygu a chyflwyno prosiectau ecoddylunio amlsectoraidd cydweithredol (mewn partneriaeth â'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector). (Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chwmnïau, cymdeithasau diwydiant, asiantaethau dylunio, addysgwyr, gwneuthurwyr polisi'r llywodraeth, sefydliadau a ariennir gan y llywodraeth a mentrau cymdeithasol ymhlith eraill.)
Caiff y prosiectau ecoddylunio hyn eu hategu gan waith ymchwil cymhwysol, sganio arfer gorau rhyngwladol, cyfranogiad gweithredol mewn rhwydweithiau yn y DU ac yn rhyngwladol a ffocws ar feithrin gallu. Hyd yn hyn, rydym wedi gweithio mewn mwy na 20 o wledydd ledled Ewrop, Affrica, UDA ac Asia. Mae ein cleientiaid yn amrywio o lywodraethau rhyngwladol i weithgynhyrchwyr bach.
Er enghraifft, rydym yn gweithio gydag Orangebox, gweler http://www.orangebox.com/index.asp, i ecoddylunio eu cynhyrchion. O ganlyniad, Orangebox yw'r cwmni cyntaf yn Ewrop yn eu sector i gyflawni'r achrediad Cradle to Cradle (C2C), ennill nifer o wobrau dylunio a dargyfeirio cyfeintiau helaeth o ddeunydd gwastraff o safleoedd tirlenwi, drwy sefydlu canolfan ailgylchu fewnol, gan wneud arbedion cost sylweddol.
Cefnogwyd y cynnig cychwynnol i'n sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i hymrwymiad statudol i ddatblygu cynaliadwy. Fe'n dynodwyd yn Ganolfan Arbenigedd ganddi yn 2008, ac ers hynny, cawsom ein cydnabod fel 'llais' ecoddylunio yng Nghymru a sail gwybodaeth yn y maes. Rydym yn ei helpu i ddatblygu polisïau sy'n gysylltiedig ag ecoddylunio ac yn ei helpu i droi polisi yn arfer.
Ymhlith ein cleientiaid diweddar mae Harman International, Orangebox, Global Laser, European Coil Coating Association (ECCA), y Comisiwn Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, SVID/Mistra (cyrff ar ariennir gan lywodraeth Sweden), rhwydwaith PREPARE, yr Academi Addysg Uwch (HEA), Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Rheoli Gwastraff Siartredig (CIWM) ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW).
Mae gennym bartneriaid ledled y byd yr ydym yn cydweithredu â hwy ar amrywiol lefelau. Yn eu plith mae Tata Steel, Panasonic, Phillips, Athrofa Fraunhofer, Prifysgol Dechnegol Delft (TuDelft), Prifysgol Dechnoleg Vienna (Tu Vienna), Kaospilots, y Bwrdd Strategaeth Technoleg (TSB), Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) a Fforwm Cerbydau Cymru a llawer mwy.
Orangebox have just published their newest Book of ...